Rydym yn grŵp croesawgar a chyfeillgar. Os ydych yn gerddwr newydd, neu yn hen law sydd â diddordeb mewn profiadau newydd, ymunwch â ni, neu dewch ar un neu ddwy o’n teithiau a gweld sut mae pethau’n mynd.
Mae gennym deithiau cerdded gwych ac amrywiol. Mae rhai yn fyr ac yn gymharol hawdd, rhai ar hyd clogwyni trawiadol arfordir Llŷn ac eraill yn sgrialfeydd ac ar gribau yn Eryri.
Mae gennym hefyd amrywiaeth poblogaidd o ddigwyddiadau cymdeithasol: penwythnos hir, cinio blynyddol a noson cwis.
Bydd ymuno â’r Cerddwyr, sef prif gorff Gwledydd Prydain ar gyfer cerddwyr, yn ymddangos fel rhywbeth naturiol a llesol i’w wneud!
Rydym yn rhoi rhywbeth yn ôl. Mae gennym dîm o wirfoddolwyr brwdfrydig, Tîm Taclo, yn gweithio mewn cysylltiad â Chyngor Gwynedd i wella llwybrau troed. Gwerthfawrogir eu hymdrechion gan gymunedau lleol a chyd-gerddwyr.
Os ydych am gael y wybodaeth ddiweddaraf trowch i’n tudalennau facebook a Twitter.
Mae gennym gysylltiadau cryf a byddwn yn rhannu teithiau gyda grwpiau eraill, yn enwedig rhai yng Ngogledd Cymru:
Ynys Mon, Conwy Valley, Vale of Clwyd, Clwydian, Meirionnydd a Rhodwyr Llyn Ramblers
Gweld Ramblers gwefan i bawb North Wales Walks